Wrth drafod ei gyfrol newydd Brwydr yr Iaith, dywedodd ei fod yn gobeithio y bydd ei darllen yn ysbrydoli’r genhedlaeth ifanc i “godi eto i’r gad a brwydro dros yr iaith yn lle derbyn popeth yn wasaidd ac yn slafaidd”.
Wrth drafod y frwydr bresennol dros yr iaith, dywedodd fod “pethau’n isel, mae’r ysbryd i’w weld yn isel.”
“Does ‘na ddim ysbryd chwyldro yn sicr, does ‘na’m ysbryd protestio, does ‘na’m ysbryd ymladd o gwbl ‘di mynd,” meddai.
“Ambell i orymdaith efo rhyw faneri ac yn y blaen, ond pethau arwynebol iawn ydi’r rheiny.”
Ychwanegodd mai’r genhedlaeth hŷn sy’n parhau i frwydro dros yr iaith.
“Mae’n biti garw na fyse mwy yn gafael yng nghyrn yr arad ac yn bwrw iddi dyddiau yma,” meddai, “ond ‘da ni wrthi, yn dal i drio”.














































