Dywedodd Reddin ei fod “wrth fy modd fy mod yn ymuno â rygbi Cymru ar gyfnod mor allweddol.”
“Mae’n fraint cael fy mhenodi i un o swyddi pwysicaf y byd rygbi a hynny mewn gwlad sydd â hanes mor gyfoethog ac angerddol yng nghyd-destun y gamp.
“Wrth gwrs bod heriau sylweddol o’n blaenau ond ‘rwy’n cael fy ysbrydoli gan weledigaeth a strategaeth Abi [Tierney] a’i thîm.
Bydd yn dechrau ei waith gyda URC o fis Gorffennaf ymlaen, ac yn rhan o benodi prif hyfforddwr newydd, cyn mynd yn llawn amser o 1 Medi.
“Fy nyletswydd cyntaf fydd canolbwyntio ar benodi prif hyfforddwr newydd tîm y dynion gan hefyd drwytho fy hun cyn gynted ag sy’n bosib yn niwylliant y gamp yma yng Nghymru.
“Bydd hynny’n fy ngalluogi i wneud y newidiadau cadarnhaol sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol.”
Bydd yn gweithio gyda phrif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney, a ddywedodd bod penodiad Reddin yn “newyddion gwych”.