Dywedodd Mr Gething, sy’n cynrychioli De Caerdydd a Phenarth, wrth aelodau: “Fel Cymro gafodd ei eni yn Zambia, mae wedi bod yn fraint gwasanaethu yn llywodraeth Cymru am dros ddegawd.
“Mae’r cyfle i wneud gwahaniaeth ac i ysbrydoli pobl a symudiadau, ac i wneud gwahaniaeth, yn fraint arbennig.
“Mi fydda i wastad yn ddiolchgar ac yn falch o hynny.”
Dywedodd ei fod wedi siarad gyda’r Prif Weinidog, Eluned Morgan i gadarnhau na fydd yn sefyll eto ac y bydd yn ei chefnogi hi o’r meinciau cefn.