Mae disgwyl i brif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, Warren Gatland, adael ei swydd yn dilyn cyfres o ganlyniadau siomedig.
Mae Cymru wedi colli 14 gêm brawf yn olynol, gan gynnwys y ddwy gêm gyntaf yn y Chwe Gwlad eleni yn erbyn Ffrainc a’r Eidal.
Roedd Gatland yn mynd i adael ar ddiwedd y Chwe Gwlad ond mae trafodaethau’n cael eu cynnal ynghylch a fydd hynny’n digwydd gyda thair gêm i fynd.
Bydd Cymru’n wynebu Iwerddon ar 22 Chwefror yng Nghaerdydd, yna taith oddi cartref i’r Alban ar 8 Mawrth cyn gorffen y gystadleuaeth eleni gartref yn erbyn Lloegr ar 15 Mawrth.
Mae Gatland dan gytundeb tan Gwpan y Byd 2027 ond mae cymal terfynu yn ei gytundeb yr haf hwn.
Mae cyn-hyfforddwr Awstralia, Michael Cheika, hyfforddwr Glasgow, Franco Smith a phennaeth dros dro Iwerddon, Simon Easterby yn olynwyr posib.