{"id":33932,"date":"2024-05-06T06:34:37","date_gmt":"2024-05-06T06:34:37","guid":{"rendered":"https:\/\/kede.com.br\/news\/cofnod-y-senedd-opsiwn-uniaith-diangen-a-diffyg-cyfieithu\/"},"modified":"2024-05-06T06:34:38","modified_gmt":"2024-05-06T06:34:38","slug":"cofnod-y-senedd-opsiwn-uniaith-diangen-a-diffyg-cyfieithu","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/kede.com.br\/news\/cofnod-y-senedd-opsiwn-uniaith-diangen-a-diffyg-cyfieithu\/","title":{"rendered":"Cofnod y Senedd: &#8216;Opsiwn uniaith diangen a diffyg cyfieithu&#8217;"},"content":{"rendered":"<p> <br \/>\n<\/p>\n<div>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\"><b class=\"ssrcss-1xjjfut-BoldText e5tfeyi3\">Mae cynnig opsiwn uniaith Saesneg o gofnod ysgrifenedig cyfarfodydd llawn y Senedd yn &#8220;gamarweiniol ac yn artiffisial&#8221; meddai arbenigwr ar ddwyieithrwydd.<\/b><\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Ac ar wah\u00e2n, mae Cymdeithas yr Iaith yn beirniadu&#8217;r ffaith bod cofnod y pwyllgorau yn cynnwys cyfieithu Cymraeg i Saesneg yn unig.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Dywedodd Comisiwn y Senedd &#8211; sy&#8217;n rhedeg y sefydliad o ddydd i ddydd &#8211; bod eu polisi cyfieithu yn &#8220;sicrhau gwasanaeth gwych a gwerth am arian i&#8217;r cyhoedd&#8221;.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Mae Cofnod y Trafodion yn drawsgrifiad gair am air o gyfarfodydd llawn y Senedd pan mae&#8217;r 60 AS yn cwrdd yn y Siambr, ac o gyfarfodydd pwyllgorau, fel Hansard yn San Steffan.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Ers 2016 mae&#8217;r Senedd yn cynnig yr opsiwn o ddarllen cofnod cyfarfodydd llawn yn Saesneg yn unig neu yn Gymraeg yn unig, yn ogystal \u00e2&#8217;r fformat dwyieithog.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Rhwng 1999 a 2016 bu&#8217;r Cynulliad, fel yr oedd yn cael ei alw bryd hynny, yn darparu&#8217;r cofnod o gyfarfodydd llawn yn y fformat dwyieithog yn unig, sef yr ieithoedd mewn colofnau cyfochrog, gyda&#8217;r iaith a gafodd ei llefaru ar y chwith a&#8217;r cyfieithiad ar y dde.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Os yw&#8217;r AS yn siarad Cymraeg mae&#8217;r cofnod yn ddwyieithog ar unwaith, ond ar gyfer cyfraniadau Saesneg rhaid aros hyd at dri diwrnod gwaith ar gyfer y fersiwn derfynol gwbl ddwyieithog.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Dywedodd Dr Peredur Webb-Davies, uwch ddarlithydd mewn ieithyddiaeth ym mhrifysgol Bangor, y byddai&#8217;n &#8220;gwneud mwy o synnwyr i gael y fersiwn dwyieithog yn unig, am ei fod yn cyfleu amgylchedd ieithyddol y Senedd a Chymru, ac yn fwy defnyddiol&#8221;.<\/p>\n<\/div>\n<p><br \/>\n<br \/><a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/newyddion\/68938483\">Source link <\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae cynnig opsiwn uniaith Saesneg o gofnod ysgrifenedig cyfarfodydd llawn y Senedd yn &#8220;gamarweiniol ac yn artiffisial&#8221; meddai arbenigwr ar ddwyieithrwydd. Ac ar wah\u00e2n, mae Cymdeithas yr Iaith yn beirniadu&#8217;r ffaith bod cofnod y pwyllgorau yn cynnwys cyfieithu Cymraeg i Saesneg yn unig. Dywedodd Comisiwn y Senedd &#8211; sy&#8217;n rhedeg y sefydliad o ddydd i [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":33933,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[50],"tags":[13314,13319,13317,13318,13315,5738,13316],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/33932"}],"collection":[{"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=33932"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/33932\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":33934,"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/33932\/revisions\/33934"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/media\/33933"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=33932"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=33932"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=33932"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}