{"id":37442,"date":"2024-06-28T08:29:55","date_gmt":"2024-06-28T08:29:55","guid":{"rendered":"https:\/\/kede.com.br\/news\/tata-ystyried-cau-ffwrneisi-chwyth-yn-gynt-nar-disgwyl\/"},"modified":"2024-06-28T08:29:56","modified_gmt":"2024-06-28T08:29:56","slug":"tata-ystyried-cau-ffwrneisi-chwyth-yn-gynt-nar-disgwyl","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/kede.com.br\/news\/tata-ystyried-cau-ffwrneisi-chwyth-yn-gynt-nar-disgwyl\/","title":{"rendered":"Tata: Ystyried cau ffwrneisi chwyth yn gynt na&#8217;r disgwyl"},"content":{"rendered":"<p> <br \/>\n<\/p>\n<div>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Wrth ymateb i&#8217;r cyhoeddiad nos Iau, dywedodd Prif Weinidog Cymru Vaughan Gething fod y newyddion yn &#8220;syfrdanol&#8221;, gan alw ar y cwmni i aros i weld canlyniad yr etholiad cyffredinol.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">&#8220;Mae&#8217;r cynlluniau posib i gau ffwrneisi chwyth pedwar a phump ym Mhort Talbot yr wythnos nesaf yn syfrdanol, a bydd hynny yn achosi poen meddwl enfawr i&#8217;r gweithlu, eu teuluoedd a&#8217;r gymuned yn ehangach,&#8221; meddai.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">&#8220;Dyw Llywodraeth Cymru ddim yn gallu cefnogi&#8217;r cynlluniau i gau&#8217;r ffwrneisi.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">&#8220;Ry&#8217;n ni wedi dweud sawl tro, dylai&#8217;r cwmni aros i weld canlyniad yr etholiad cyffredinol cyn gwneud unrhyw benderfyniadau na ellir eu gwyrdroi.&#8221;<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Mae&#8217;r cyhoeddiad, medd llefarydd yr economi ac ynni&#8217;r Ceidwadwyr Cymreig, Samuel Kurtz, yn &#8220;siomedig&#8221; ac yn rhoi &#8220;mwy o straen i gymunedau sydd eisoes \u00e2 digon i&#8217;w poeni&#8221;.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Fe gyhuddodd Tata o &#8220;ddiffyg ewyllys da i&#8217;w gweithwyr ar adeg ofidus&#8221;.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Dywedodd hefyd bod llywodraeth Lafur Cymru wedi &#8220;esgus cefnogi gweithlu Tata, gan fethu \u00e2 chyfrannu ceiniog i&#8217;r bwrdd trawsnewid, a dydy maniffesto Llafur y DU yn dweud dim o ran beth fyddai&#8217;n gwneud yn wahanol i gefnogi gweithwyr dur Tata&#8221;.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Mae llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Luke Fletcher yn dweud y dylai llywodraeth nesa&#8217;r DU fod yn gyfrifol am y diwydiant dur fydd, ym marn y blaid, yn cael ei harwain gan Syr Keir Starmer.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Dywedodd: &#8220;Mae&#8217;r newyddion yn ofnadwy i Gymru, ein heconomi a&#8217;n cymunedau.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">&#8220;Digon yw digon &#8211; mae&#8217;n amser i fod yn feiddgar a mentrus oherwydd os nad ydyn ni, fydd cenedlaethau dyfodol ddim yn diolch i ni am adael i&#8217;r diwydiant wywo.&#8221;<\/p>\n<\/div>\n<p><br \/>\n<br \/><a href=\"https:\/\/www.bbc.com\/cymrufyw\/erthyglau\/cervj11v4d4o\">Source link <\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Wrth ymateb i&#8217;r cyhoeddiad nos Iau, dywedodd Prif Weinidog Cymru Vaughan Gething fod y newyddion yn &#8220;syfrdanol&#8221;, gan alw ar y cwmni i aros i weld canlyniad yr etholiad cyffredinol. &#8220;Mae&#8217;r cynlluniau posib i gau ffwrneisi chwyth pedwar a phump ym Mhort Talbot yr wythnos nesaf yn syfrdanol, a bydd hynny yn achosi poen meddwl [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":37443,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[50],"tags":[10414,14093,14096,14092,14094,14095,1189,14091],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/37442"}],"collection":[{"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=37442"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/37442\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":37444,"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/37442\/revisions\/37444"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/media\/37443"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=37442"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=37442"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=37442"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}