{"id":50626,"date":"2025-03-12T11:54:37","date_gmt":"2025-03-12T11:54:37","guid":{"rendered":"https:\/\/kede.com.br\/news\/carcharu-cyn-esgob-am-droseddau-rhyw-yn-erbyn-plentyn\/"},"modified":"2025-03-12T11:54:39","modified_gmt":"2025-03-12T11:54:39","slug":"carcharu-cyn-esgob-am-droseddau-rhyw-yn-erbyn-plentyn","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/kede.com.br\/news\/carcharu-cyn-esgob-am-droseddau-rhyw-yn-erbyn-plentyn\/","title":{"rendered":"Carcharu cyn-esgob am droseddau rhyw yn erbyn plentyn"},"content":{"rendered":"<p> <br \/>\n<\/p>\n<div>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\"><b class=\"ssrcss-1xjjfut-BoldText e5tfeyi3\">Mae cyn-esgob wnaeth gam-drin plentyn yn rhywiol wedi ei garcharu.<\/b><\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Cafodd Anthony Pierce, oedd yn Esgob Abertawe ac Aberhonddu rhwng 1999 a 2008, ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mercher.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Clywodd y llys bod y troseddau&#8217;n dyddio o gyfnod rhwng 1985 a 1990, pan oedd yn offeiriad plwyf yn West Cross, Abertawe.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Daeth ei droseddau i&#8217;r amlwg yn 2023, pan basiodd yr Eglwys yng Nghymru wybodaeth am honiadau at yr heddlu.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Roedd Pierce, 84, wedi cyfaddef pum cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar fachgen dan 16 oed.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Cafodd ddedfryd o bedair blynedd ac un mis dan glo.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Bydd yn treulio hanner y ddedfryd yn y carchar a hanner ar drwydded.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Dywedodd y Barnwr Catherine Richards bod Pierce wedi &#8220;manteisio ar ei oed a&#8217;i ymddiriedaeth ynddoch&#8221;.<\/p>\n<\/div>\n<p><br \/>\n<br \/><a href=\"https:\/\/www.bbc.com\/cymrufyw\/erthyglau\/ce8y6r59j4ko\">Source link <\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae cyn-esgob wnaeth gam-drin plentyn yn rhywiol wedi ei garcharu. Cafodd Anthony Pierce, oedd yn Esgob Abertawe ac Aberhonddu rhwng 1999 a 2008, ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mercher. Clywodd y llys bod y troseddau&#8217;n dyddio o gyfnod rhwng 1985 a 1990, pan oedd yn offeiriad plwyf yn West Cross, Abertawe. Daeth [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":50627,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[50],"tags":[16522,16523,16524,10620,16526,16525],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/50626"}],"collection":[{"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=50626"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/50626\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":50628,"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/50626\/revisions\/50628"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/media\/50627"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=50626"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=50626"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=50626"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}