{"id":57529,"date":"2025-06-26T13:54:38","date_gmt":"2025-06-26T13:54:38","guid":{"rendered":"https:\/\/kede.com.br\/news\/cadarnhau-achosion-o-ffliw-adar-yng-ngogledd-a-de-cymru\/"},"modified":"2025-06-26T13:54:40","modified_gmt":"2025-06-26T13:54:40","slug":"cadarnhau-achosion-o-ffliw-adar-yng-ngogledd-a-de-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/kede.com.br\/news\/cadarnhau-achosion-o-ffliw-adar-yng-ngogledd-a-de-cymru\/","title":{"rendered":"Cadarnhau achosion o ffliw adar yng ngogledd a de Cymru"},"content":{"rendered":"<p> <br \/>\n<\/p>\n<div>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Mae Angela Frayling-James, 40, yn rhedeg Sweet Home Alpaca gyda&#8217;i g\u0175r Alex, tyddyn bach ger y Garn yn Sir Benfro.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Dywedodd bod ei theulu wedi&#8217;u llorio ar \u00f4l i 120 o ieir ar eu heiddo gael eu heffeithio.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">&#8220;Roedd popeth yn iawn ddydd Sadwrn ond erbyn bore Sul roedd saith i\u00e2r wedi marw ac roedd mwy yn s\u00e2l.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">&#8220;Wnes i ffonio APHA (Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion) ar unwaith, oherwydd o&#8217;n i&#8217;n gwybod bod angen ei nodi oherwydd bod cymaint wedi marw mor gyflym, a thrwy gydol y dydd roedden ni&#8217;n gweld ieir yn marw o&#8217;n blaenau.&#8221;<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Fe wnaeth profion ar yr ieir gadarnhau achosion o H5N1. Roedd 40 o ieir wedi marw erbyn i swyddogion gael eu hanfon allan i ddifa&#8217;r 80 oedd ar \u00f4l.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">&#8220;Nid ieir yn unig oedden nhw i ni. Fe wnaethon ni achub nhw tua pedwar neu bum mis yn \u00f4l. Dim ond cariad ni wedi&#8217;i roi iddyn nhw,&#8221; meddai.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Dywedodd Angela bod eu mesurau bioddiogelwch o safon uchel a&#8217;u bod yn credu mai aderyn gwyllt s\u00e2l oedd wedi heintio&#8217;r haid gan eu bod yn rhydd i grwydro.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Bydd angen i&#8217;w busnes aros ar gau am o leiaf dair wythnos nawr.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">&#8220;Does gennym ni ddim incwm, dim o gwbl, dw i&#8217;n poeni am dalu am bethau fel bwyd yr alpaca, dw i&#8217;n poeni am golli&#8217;r t\u0177 oherwydd mae&#8217;n rhaid i ni gael nifer penodol o anifeiliaid ar y safle er mwyn i ni gael ein cymeradwyo ar gyfer cynllunio.&#8221;<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Mae hi&#8217;n cynghori pobl eraill sydd wedi&#8217;u heffeithio gan ffliw adar i siarad am y mater.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">&#8220;Siaradwch \u00e2 phobl, siaradwch \u00e2&#8217;ch cymuned, oherwydd mae&#8217;n unig, mae&#8217;n frawychus. Rydw i wedi gofyn cymaint o gwestiynau, a does neb yn gwybod yr ateb, oherwydd nid yw&#8217;n digwydd yn aml iawn.&#8221;<\/p>\n<\/div>\n<p><br \/>\n<br \/><a href=\"https:\/\/www.bbc.com\/cymrufyw\/erthyglau\/c20rd8yve55o\">Source link <\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Angela Frayling-James, 40, yn rhedeg Sweet Home Alpaca gyda&#8217;i g\u0175r Alex, tyddyn bach ger y Garn yn Sir Benfro. Dywedodd bod ei theulu wedi&#8217;u llorio ar \u00f4l i 120 o ieir ar eu heiddo gael eu heffeithio. &#8220;Roedd popeth yn iawn ddydd Sadwrn ond erbyn bore Sul roedd saith i\u00e2r wedi marw ac roedd [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":57530,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[50],"tags":[15230,17641,14685,1219,17640,17642,703],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/57529"}],"collection":[{"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=57529"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/57529\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":57531,"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/57529\/revisions\/57531"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/media\/57530"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=57529"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=57529"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=57529"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}