{"id":63598,"date":"2025-09-23T15:36:44","date_gmt":"2025-09-23T15:36:44","guid":{"rendered":"https:\/\/kede.com.br\/news\/llywodraeth-wedi-gollwng-cynllun-dadleuol-cytundeb-deintyddion\/"},"modified":"2025-09-23T15:36:45","modified_gmt":"2025-09-23T15:36:45","slug":"llywodraeth-wedi-gollwng-cynllun-dadleuol-cytundeb-deintyddion","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/kede.com.br\/news\/llywodraeth-wedi-gollwng-cynllun-dadleuol-cytundeb-deintyddion\/","title":{"rendered":"Llywodraeth wedi gollwng cynllun dadleuol cytundeb deintyddion"},"content":{"rendered":"<p> <br \/>\n<\/p>\n<div>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Mae&#8217;r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu&#8217;r tro pedol hwn gan y Blaid Lafur, ac yn dweud bod parhad yn y gofal yn &#8220;hanfodol&#8221;.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">&#8220;Ond bydd y cytundeb deintyddol newydd y GIG yn talu deintyddion i weld pobl yn seiliedig ar eu hanghenion yn lle eu gweld ddwywaith y flwyddyn yn rheolaidd a gall bylchau o hyd at ddwy flynedd fod rhwng archwiliadau,&#8221; medd James Evans AS, Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Ateb dros dro yw hyn, ychwanegodd y Ceidwadwyr Cymreig,  gyda&#8217;r potensial i &#8220;niweidio cleifion deintyddol yn y tymor hir&#8221;.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros iechyd a gofal cymdeithasol, Mabon ap Gwynfor AS:<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">&#8220;Mae&#8217;r sefyllfa sy&#8217;n wynebu deintyddiaeth y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn argyfyngus. <\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">&#8220;Er bod y rhybuddion wedi bod yn amlwg ers peth amser, mae gweithredoedd Llywodraeth Lafur Cymru wedi arwain at ddeintyddion y gwasanaeth iechyd yn rhoi&#8217;r diwedd i&#8217;w cytundebau yn eu tyrfaoedd, gyda&#8217;r anialwch deintyddol ar draws Cymru yn lledaenu. <\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Mae mynediad at ddeintyddiaeth bellach yn foethusrwydd yn hytrach na hawl a roddir i bawb.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">&#8220;Mae pryderon Plaid Cymru yn parhau. Rhaid i Lywodraeth Lafur Cymru fod yn glir ynghylch y goblygiadau posibl o ganlyniad i&#8217;r bwlch cynyddol rhwng apwyntiadau, blaenoriaethu lles a lles deintyddion o ganlyniad i lwyth gwaith, a gwella casglu data er mwyn sicrhau tryloywder. <\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">&#8220;Os na fydd y llywodraeth yn cymryd camau brys i gefnogi deintyddion yn well fel eu bod yn dewis aros yn y gwasanaeth iechyd, cleifion bydd yn dioddef.&#8221;<\/p>\n<\/div>\n<p><br \/>\n<br \/><a href=\"https:\/\/www.bbc.com\/cymrufyw\/erthyglau\/c33rpelyrd1o?at_medium=RSS&#038;at_campaign=rss\">Source link <\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae&#8217;r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu&#8217;r tro pedol hwn gan y Blaid Lafur, ac yn dweud bod parhad yn y gofal yn &#8220;hanfodol&#8221;. &#8220;Ond bydd y cytundeb deintyddol newydd y GIG yn talu deintyddion i weld pobl yn seiliedig ar eu hanghenion yn lle eu gweld ddwywaith y flwyddyn yn rheolaidd a gall bylchau o hyd [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":63599,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[50],"tags":[13123,18547,18546,18548,18545,15718,3911],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/63598"}],"collection":[{"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=63598"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/63598\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":63600,"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/63598\/revisions\/63600"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/media\/63599"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=63598"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=63598"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=63598"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}