{"id":78451,"date":"2026-06-22T05:11:47","date_gmt":"2026-06-22T05:11:47","guid":{"rendered":"https:\/\/kede.com.br\/news\/cyn-ddisgyblion-uned-yng-ngwynedd-yn-son-am-gamdriniaeth-a-gorfod-bwyta-bisgedi-cwn\/"},"modified":"2026-06-22T05:11:50","modified_gmt":"2026-06-22T05:11:50","slug":"cyn-ddisgyblion-uned-yng-ngwynedd-yn-son-am-gamdriniaeth-a-gorfod-bwyta-bisgedi-cwn","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/kede.com.br\/news\/cyn-ddisgyblion-uned-yng-ngwynedd-yn-son-am-gamdriniaeth-a-gorfod-bwyta-bisgedi-cwn\/","title":{"rendered":"Cyn-ddisgyblion uned yng Ngwynedd yn s\u00f4n am gamdriniaeth a gorfod bwyta bisgedi c\u0175n"},"content":{"rendered":"<p> <br \/>\n<\/p>\n<div>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Yn 2016 fe ollyngwyd cyhuddiadau o greulondeb tuag at blant ar ddau aelod o staff Canolfan Brynffynnon.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Roedd y ddau ddyn yn wynebu 50 o gyhuddiadau rhyngddynt.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Ond dywedodd Heddlu Gogledd Cymru, wrth i dystiolaeth gael ei chasglu, fod &#8220;Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi adolygu&#8217;r holl wybodaeth oedd ar gael, a phenderfynu nad oedd yr achos bellach yn cyrraedd y trothwy ar gyfer erlyniad troseddol&#8221;.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Mewn achos troseddol, rhaid i erlynwyr brofi achos y tu hwnt i amheuaeth resymol. <\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Mewn achos sifil am iawndal, mae&#8217;r lefel o brawf sydd ei angen yn is &#8211; ar sail tebygolrwydd.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Mae&#8217;r ddau ddyn yn parhau i wadu&#8217;r honiadau&#8217;n gryf ac wedi tynnu sylw at y ffaith i&#8217;r achos troseddol gael ei ollwng.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Mewn achos ar wah\u00e2n, cafodd y pedoffeil Neil Foden ei garcharu am 17 mlynedd yn 2024 ar \u00f4l cael ei gael yn euog o gam-drin pedair merch dros gyfnod o bedair blynedd.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Roedd Foden wedi bod yn bennaeth ar ddwy ysgol arall yng Ngwynedd, gydag adolygiad wedi canfod dros 50 o &#8220;gyfleon a gafodd eu colli&#8221; i ymyrryd.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Mae&#8217;r cyfreithiwr sy&#8217;n gweithredu ar ran Rhiannon a Levi, Katherine Yates, hefyd yn cynrychioli rhai o ddioddefwyr Foden.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">&#8220;Rwy&#8217;n credu bod angen ymchwiliad cyhoeddus,&#8221; meddai.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">&#8220;Dydy Canolfan Brynffynnon ddim yn achos unigryw. Mae&#8217;n dod yn syth ar \u00f4l achos Neil Foden.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">&#8220;Pwy a \u0175yr beth arall sydd heb ddod i&#8217;r fei? Faint o sgerbydau eraill sy&#8217;n cuddio yn y cypyrddau?<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">&#8220;Dydw i ddim yn credu y dylai Gwynedd farcio ei gwaith ei hun. <\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">&#8220;Rydym angen gwybod beth ddigwyddodd, pam y digwyddodd, pwy sy&#8217;n gyfrifol, a sut i atal hyn rhag digwydd eto.&#8221;<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Dywedodd Ms Yates ei bod yn gweithredu ar ran 21 o hawlwyr, ac mae saith achos eisoes wedi&#8217;u setlo.<\/p>\n<\/div>\n<p><br \/>\n<br \/><a href=\"https:\/\/www.bbc.com\/cymrufyw\/erthyglau\/c1lydyg0g88o?at_medium=RSS&#038;at_campaign=rss\">Source link <\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn 2016 fe ollyngwyd cyhuddiadau o greulondeb tuag at blant ar ddau aelod o staff Canolfan Brynffynnon. Roedd y ddau ddyn yn wynebu 50 o gyhuddiadau rhyngddynt. Ond dywedodd Heddlu Gogledd Cymru, wrth i dystiolaeth gael ei chasglu, fod &#8220;Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi adolygu&#8217;r holl wybodaeth oedd ar gael, a phenderfynu nad oedd yr [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":78452,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[50],"tags":[20967,20966,20968,20962,20964,20965,15236,728,20963,703],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/78451"}],"collection":[{"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=78451"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/78451\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":78453,"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/78451\/revisions\/78453"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/media\/78452"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=78451"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=78451"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/kede.com.br\/news\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=78451"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}