Bu farw bachgen 16 oed o Grangetown, Caerdydd, mewn ffair ar Ynys y Barri ddydd Gwener.
Cadarnhaodd yr heddlu ddydd Sadwrn fod bachgen 15 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod, ond mae bellach wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Mae Heddlu’r De yn parhau gyda’r ymchwiliad i farwolaeth Taha Soomro, wnaeth ddioddef yr hyn y maen nhw’n ei ddisgrifio fel “digwyddiad meddygol,” yn y Parc Pleser ar Ynys y Barri.
Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw Taha yn y fan a’r lle.
Dywedodd y Parc Pleser fod y newyddion am y farwolaeth yn drist iawn a bod eu tîm “wedi gwneud eu gorau i gynorthwyo’r gwasanaethau brys” ar y pryd.
Mae teulu Taha wedi cael eu diweddaru ac yn parhau i gael eu cefnogi.