Ond beth sy’n fwyaf syfrdanol efallai yw mai Richard yw, yn ei eiriau ei hun: “y canŵiwr gwaethaf yn y teulu”.
Mae ei wraig, Carol, wedi ennill pencampwriaeth slalom Cymru dair gwaith ac wedi cynrychioli Cymru a Phrydain.
Yn yr un modd mae ei ferched, Cara a Kirsten, wedi cynrychioli Cymru a Phrydain.
“Mae Cara bellach yn canolbwyntio ar expeditions. Mae hi yn Norwy ar y funud ac wedi bod mewn llefydd fel Rwsia a Mongolia i ganŵio.
“A mis Hydref fe fydd Kirsten yn cynrychioli tîm polo canŵ Prydain ym Mhencampwriaeth y Byd yn Tsieina.”
Beth sy’n dod ar ôl y Gemau Olympaidd i Richard?
“Dwi’m yn siŵr,” ydi’r ateb gonest. “Ar y funud ‘dwi jysd isho canolbwyntio ar hyn. Mae’n bwysig bod yn y foment a chanolbwyntio’n llwyr ar y gemau.”
Ond un peth mae’n sicr ohono – fe fydd yn parhau i weithio’n wirfoddol efo clwb canŵio’r Bala.
Mae hefyd yn awyddus i annog unrhyw un sydd hefo diddordeb yn y gamp i roi cynnig arni drwy gysylltu efo’u clwb canŵio lleol drwy wefan Canŵ Cymru.
A phwy a ŵyr, efallai y bydden nhw yn mynd i’r Gemau Olympaidd yn y dyfodol…