Roedd Kevin a Lynwen Williams o Gaernarfon wedi prynu tocynnau awyren a bwcio gwestai yn yr Almaen pan gafodd dyddiadau a lleoliadau gemau Euro 2024 eu cyhoeddi fis Chwefror.
Ond pan gollodd Cymru yn erbyn Gwlad Pwyl fis Mawrth fe benderfynon nhw a’u ffrindiau lynu at eu cynlluniau. Am y bythefnos nesaf fe fyddan nhw’n dilyn y Pwyliaid i Hamburg, Berlin a Dortmund.
“Dwi’n hollol gutted bod Cymru ddim yna – a ninna’ wedi dod mor agos efo penalties. Roeddan ni mor agos – dyna sy’n brifo,” meddai Kevin Williams, sy’n gobeithio cael tocyn i wylio un gêm, ond fel arall am ddilyn y pêl-droed ar sgrin fawr y cefnogwyr.
“Fydd yna deimlad o be’ fasa wedi gallu bod, a dwi’n mynd â tri crys Cymru fi a bucket hat – ond nawn ni fwynhau.
“Dwi erioed wedi bod yn yr Almaen – un o’r ychydig lefydd yn Ewrop dwi heb fod – a dwi erioed wedi bod i’r Ewros. Roeddan ni yn Efrog Newydd a Florida yn 2016.
“Felly dwi’n rili edrych ymlaen.”