Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal yn dilyn marwolaeth menyw mewn afon yn Sir Gaerfyrddin.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Afon Cothi ym Mhontargothi ger Nantgaredig am 17:41 ar 6 Mai yn dilyn adroddiadau bod rhywun yn yr afon.
Cafodd corff menyw ei dynnu o’r afon ac mae ei theulu wedi cael gwybod.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i achos marwolaeth y fenyw, ond nid yw’r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus ar hyn o bryd.