Mewn datganiad, fe ddywedodd llywodraethwyr yr ysgol fod yna “aneglurder” am y “prosesau hysbysebu a phenodi” gafodd eu gwneud gan Neil Foden “yn ystod ei 26 mlynedd fel pennaeth”.
Noda’r datganiad hefyd nad oedd trefniadau recriwtio’r gorffennol yn “ddigon agored a thryloyw.”
Mae “polisïau a gweinyddiaeth yr ysgol” yn cael eu hadolygu, fel eu bod yn “cyd-fynd â phob gofyn statudol a pholisi’r Ysgol a’r Cyngor”.
Mae datganiad gan Gyngor Gwynedd yn nodi nad oedd pob un o’r 94 penodiad yn rhai o’r newydd, a bod yna gyfuniad o swyddi dros dro, dyrchafiadau a newidiadau mewnol.
Mae’r awdurdod yn “cefnogi llywodraethwyr ac arweinyddiaeth newydd yr ysgol i wneud yn siŵr fod eu prosesau hysbysebu a phenodi staff, yn gadarn ac effeithiol i’r dyfodol”.