Mae ysgol uwchradd Cymraeg wedi cadarnhau marwolaeth disgybl yn “ddirybudd” dros y penwythnos.
Cadarnhaodd Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun, sydd ym Mhenywaun, Rhondda Cynon Taf, farwolaeth “drasig” y disgybl o flwyddyn 7.
Cafodd y disgybl ei ddisgrifio fel “aelod arbennig a gwerthfawr o gymuned yr ysgol”, gan ddweud bod meddyliau pawb yn yr ysgol gyda theulu’r unigolyn.
Fe fydd yr ysgol ar agor am rai oriau ddydd Mercher ac Iau er mwyn i ddisgyblion gael cyfle i siarad gyda staff a derbyn cymorth arbenigol.