Yn siarad gyda BBC Cymru wedi’r cyfarfod, dywedodd arweinydd y cyngor Darren Price eu bod yn “hynod o awyddus nawr i symud ymlaen cyn gynted ag sydd yn bosib”.
Ond mae’n cydnabod bod “y gost tu allan i’n gafael ni, tu allan i’n rheolaeth ni”.
“Mae’r costau adeiladu wedi cynyddu yn ddirfawr dros y blynyddoedd diwethaf ac mae hynny yn realiti mae’n rhaid i ni a phob cyngor arall fyw â fe,” meddai.
“Er mwyn symud i’r cam nesaf, mae angen mwy o eglurder ynglŷn â chostau er mwyn sicrhau ein bod ni’n cael gwerth am arian.
“Ni’n awyddus iawn i sicrhau bod pa bynnag opsiwn ni’n penderfynu arno yn mynd i weithio i Lanelli am flynyddoedd i ddod.
“Ni wedi sicrhau bod hyn ar dop ein rhestr ni o drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a dyna yw’r ffocws nawr – delifro cyn gynted ag sydd yn bosib.”