Un o brif argymhellion y cynllun ailstrwythuro yw “symleiddio llywodraethiant a lleihau biwrocratiaeth”, gon fod teimlad bod “y system bresennol yn rhy drwm, ddim yn ddigon tryloyw ac yn brin o adnoddau ar gyfer yr Eglwys sydd gennym yn awr”.
“Da’ ni ddim yn cael ein galw yn drefnyddion Calfinaidd am ddim rheswm,” meddai Nan Powell-Davies.
“Mae gennyn ni lot o drefn a rheola’ – rheola’ da’ ni ‘di gosod ein hunan… ein diben waith ni ydi adnewyddu yr eglwys leol a’i gosod hi fel calon yn ein cymunedau ni.
“Mae gennyn ni dal i fod tua 450 o eglwysi ar draws ein cymunedau ond ‘da ni eisio eu grymuso nhw [a chreu trefn sy’n sicrhau] bod yr adnodda’ yn cyrra’dd yn lleol yn haws, bod penderfyniada’ yn ca’l eu ‘neud yn llawer iawn cyflymach.”
Mae angen hefyd, meddai, i ddefnyddio adeiladau “yn ddoeth – dydi cadw apêl yn agored er mwyn cyfarfod unwaint y mis am awr ar b’nawn Sul ddim yn hyfyw, ‘di o ddim yn ‘neud synnwyr cyffredin”.
Mae’r holl broses, awgrymodd, wedi bod “yn gyfle i feddwl tu allan i’r bocsus hynny ‘dan ni ‘di bod yn ‘neud yn y canrifoedd dwytha”.
Ond mae hi’n cydnabod bod “sôn am newidada’n gallu bod yn anodd i rai” a bod angen symud ymlaen mewn ffordd sy’n “mynd â pawb efo ni.”
Mae’r adroddiad i’r Gymanfa Gyffredinol hefyd yn amlinellu “arwyddion o obaith”, gan gynnwys “cyfoeth cyfunol sylweddol o ychydig dros £21 miliwn, gan roi sail ariannol gadarn ar gyfer gwaith cenhadol yn y dyfodol”.
Mae 110 o eglwysi’n “cynnal, yn helpu i gynnal, neu’n rhoi cartref i Fanciau Bwyd lleol, a 21 yn gweithredu fel Mannau Cynnes dynodedig”.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.














































