Mae tua biliwn o litrau o ddŵr wedi cael eu cyflenwi bob dydd yn ystod yr wythnos ddiwethaf – tua 20% yn fwy na’r hyn sy’n cael ei ddisgwyl fel arfer ar yr adeg yma o’r flwyddyn, yn ôl Dŵr Cymru.
Mae’r galw am ddŵr wedi parhau i fod yn eithriadol o uchel yn ystod y dydd a’r nos ers sawl wythnos bellach.
Er bod Dŵr Cymru yn cydnabod bod adnoddau dŵr a lefelau cronfeydd dŵr yn parhau’n dda ar hyn o bryd, maen nhw’n dweud mai’r her yw “cynhyrchu, trin, storio a symud digon o ddŵr yfed trwy’r rhwydwaith yn ddigon cyflym i fodloni’r lefel neilltuol o uchel yma o alw”.
Ychwanegodd y cwmni: “Oni bai bod y galw’n disgyn yn sylweddol dros yr ychydig ddyddiau nesaf, mae’n debygol na fydd unrhyw opsiwn arall ar gael i Ddŵr Cymru ond cyflwyno cyfyngiadau dros dro ar bibellau dyfrio’r penwythnos yma er mwyn amddiffyn cyflenwadau dŵr hanfodol a lleihau’r risg bod cwsmeriaid yn wynebu pwysedd dŵr isel neu doriadau yn eu cyflenwadau.
“Mesur brys dros dro fyddai unrhyw gyfyngiadau, a dim ond yn yr ardal o dan sylw y byddent yn cael eu cyflwyno, a hynny dim ond nes bod y cyfnod cyfredol o alw eithriadol o uchel yn dod i ben.
“Byddai’r cyfyngiadau’n codi cyn gynted ag y bo amodau’r tywydd yn gwella a’r storfeydd lleol yn dychwelyd i lefelau mwy normal.”
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.














































