Dywedodd prif weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Carol Shillabeer bod y “penderfyniad yn adlewyrchu pryderon difrifol ac rydym yn derbyn y canfyddiadau’n llawn”.
“Mae’r materion yn ymwneud ag arweinyddiaeth a diwylliant, diogelwch cleifion, gorlenwi a diogelwch a phrofiad cleifion sy’n aros am ofal,” meddai.
“Mae’n ddrwg gennym, mewn rhai meysydd, nad yw safon y gofal wedi bod lle y mae angen bod ar gyfer ein cleifion.
“Rydym yn gwybod y bydd hyn yn peri pryder i’r bobl rydyn ni’n eu gwasanaethu ac i’n staff, sy’n gweithio o dan bwysau parhaus, ac rydyn ni am eu sicrhau bod camau gweithredu ar y gweill.
“Mae gennym ddealltwriaeth glir o’r materion a nodwyd ac mae cynllun gwella cryfach eisoes yn cael ei weithredu.
“Mae hyn yn cynnwys lleihau gorlenwi, cryfhau diogelwch cleifion, gwella arweinyddiaeth a goruchwyliaeth o fewn yr adran, a sicrhau bod cleifion yn derbyn gofal diogel o’r adeg y maen nhw’n cyrraedd, gan gynnwys tra byddan nhw’n aros i gael eu gweld.”













































