News
  • Login
  • Home
  • News
  • Sport
  • Worklife
  • Travel
  • Reel
  • Future
  • More
Thursday, September 25, 2025
No Result
View All Result

NEWS

3 °c
London
8 ° Wed
9 ° Thu
11 ° Fri
13 ° Sat
  • Home
  • Video
  • World
    • All
    • Africa
    • Asia
    • Australia
    • Europe
    • Latin America
    • Middle East
    • US & Canada

    Australian kindergarten asks parents to pay thousands for their children’s art

    Australian film altered in China to make gay couple straight

    Nicolas Sarkozy sentenced to five years in Libya campaign financing case

    Over 1,000 children fall ill from free school lunches

    Hurricane Gabrielle to hit Azores with torrential rain and enormous waves

    Cocaine lab found on property of Bolivia’s former drug czar

    Palestinians in West Bank stranded as Israel shuts only international crossing

    White House says to prep for mass firings if government shuts down

    Antoinette Lattouf awarded $150,000 over unlawful Gaza sacking

  • UK
    • All
    • England
    • N. Ireland
    • Politics
    • Scotland
    • Wales

    County Championship: Nottinghamshire win Division One title

    Keir Starmer to announce plans for digital ID scheme

    Man appears in court after death of woman in Newmilns

    Three men arrested after ‘stabbing’ in Sandfields, Swansea

    Pittsburgh Steelers’ Rooney explores Newry roots

    Starmer to announce more cash for neglected areas

    Man who called disaster a ‘great day’ sentenced

    Police in Northern Ireland used journalists’ phone data to detect staff leaks

    Argyll and Bute is fifth council to pause ‘tourist tax’ plans

  • Business
    • All
    • Companies
    • Connected World
    • Economy
    • Entrepreneurship
    • Global Trade
    • Technology of Business

    Jaguar Land Rover restarts some IT systems after cyber-attack

    US economic growth revised up on strong consumer spending

    Starbucks to close some US and UK stores

    Michelob Ultra becomes best-selling beer in the US

    UK is open to overseas talent unlike US, Reeves says

    What is the EU’s new border system EES

    Jaguar Land Rover worker son ‘worried’ over extended shutdown

    UK forecast to have highest inflation in G7 this year by OECD

    Amazon to close its UK grocery stores

  • Tech
  • Entertainment & Arts

    Dancers say Lizzo ‘needs to be held accountable’ over harassment claims

    Freddie Mercury: Contents of former home being sold at auction

    Harry Potter and the Cursed Child marks seven years in West End

    Sinéad O’Connor: In her own words

    Tom Jones: Neighbour surprised to find singer in flat below

    BBC presenter: What is the evidence?

    Watch: The latest on BBC presenter story… in under a minute

    Watch: George Alagiah’s extraordinary career

    BBC News presenter pays tribute to ‘much loved’ colleague George Alagiah

    Excited filmgoers: 'Barbie is everything'

  • Science
  • Health
  • In Pictures
  • Reality Check
  • Have your say
  • More
    • Newsbeat
    • Long Reads

NEWS

No Result
View All Result
Home UK Wales

Ateb y Galw: Beryl Vaughan

June 3, 2024
in Wales
13 min read
240 13
0
491
SHARES
1.4k
VIEWS
Share on FacebookShare on Twitter


Ffynhonnell y llun, Beryl Vaughan
Disgrifiad o’r llun,

Ar ôl wythnos brysur yn Y Ganolfan Groeso ar faes Eisteddod yr Urdd ym Maldwyn, Beryl Vaughan sy’n Ateb y Galw i Cymru Fyw yr wythnos yma.

Beryl o Lanerfyl oedd cadeirydd pwyllgor cyllid yr ŵyl.

Beth yw eich atgof cyntaf?

Fy nhaid yn rhoi tedi bêr i mi. O’n i yn rhyw bedair oed a dyna’r unig dedi gefais i ‘rioed.

Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?

Ffynhonnell y llun, Beryl Vaughan
Disgrifiad o’r llun,

Tal-y-llyn o ochr Cader Idris

Dwi wedi cal fy magu yn Nhal-y-llyn a dyna fy hoff le, mae’n rhaid i mi gyfadda’.

Mae o’n le anhygoel a phan fydda i’n dŵad adra i weld fy nwy chwaer sy’n byw ym Mryn-crug fydda i’n dŵad lawr dros y bwlch a does ‘na ddim golygfa debyg iddi yn nunlla.

Dwi wedi cerdded gymaint o gwmpas Llyn Mwyngil gan gynnwys ei gerdded o pan rewodd o drosodd yn y flwyddyn 1963.

Beth yw’r noson orau i chi ei chael erioed?

Mae’n debyg mai’r noson orau fysa noson fy mharti priodas i.

Ddaru ni gael noson a hanner; oedd ein brecwast ni mewn lle o’r enw Trefeddian yn Aberdyfi.

Disgrifiwch eich hyn mewn tri gair

Brwdfrydig, cadarnhaol, maddeugar.

Ffynhonnell y llun, Beryl Vaughan
Disgrifiad o’r llun,

Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl ‘nôl?

Mi oedd fy Nhad yn ‘sgwennu rhyw ddramau bach ac oedd o wedi ‘sgwennu drama i’r teulu mae’n debyg, ac o’n i’n rhyw 3-4 oed.

Yn rwla yn y ddrama oedd ‘na ddarn Saesneg; ‘If you lose the morning you lose the day’ ac o’n i o hyd yn mynnu dweud ‘If you lose the day you lose the morning’, a phan fydda i’n meddwl amdano fo dwi’n gwenu o hyd.

Mae gen i ryw frith gof o Nain yn ei ailadrodd o hyd ac o hyd. Dwi’n meddwl mai dyna pam dwin ei gofio fo… a dwi isio chwerthin ‘wan!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?

Pan o’n i’n beirniadu yn yr adran llên mewn eisteddfodau lleol roedd ‘na rai ohonyn nhw yn cystadlu ac yn rhoi penillion i mewn.

Roedd yna rai yn hileriys a dweud y gwir, a rhai eraill… wel o’n i’n meddwl ‘Haleliwia, fi ydy honna!’

Oeddan nhw yn fy ‘nabod i yn rhy dda o lawer drwy ddweud rai petha’, ond doedd o ddim bwys gen i.

Mae gen i groen fel eliffant ond mi oedd o’n codi cywilydd arna i!

Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?

Dwi wedi crio o lawenydd yn ‘steddfod y sir pan oedd y wyres fach yn canu.

Mi ganodd hi gydag arddeliad. Dyna’r dagrau dwytha a dagrau o lawenydd oedd rheiny.

Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?

Oes, dwi’n berson byr fy amynedd weithiau a dwi’n berson sy’n mynd i ormod o hwyl efo rhai pethau (os dwi’n credu yn angerddol yn rhywbeth).

Os ydw i’n gwrthwynebu rhyw fater o bwys, dwi’n ei erbyn o’n gacwn a mi siarada i amdano fo tan fasa’r gwartheg yn dod adra.

Dwi’n gweithio fy hun i fyny a dwi’n teimlo weithia’ y basa’n well taswn ni’n peidio.

Ffynhonnell y llun, Beryl Vaughan
Disgrifiad o’r llun,

Beth yw eich hoff lyfr, ffilm neu albym a pham?

Faswn i’n dweud mai y ffilm orau ydy The Sound of Music a dwi’n dal i’w mwynhau hi.

Ges i’r cyfla i fynd i weld y sioe yn Llundain pan oedd Julie Andrews drosodd a dwi wedi gweld y ffilm niferoedd o weithiau.

Ac wrth gwrs, mae hi ymlaen adag dolig a phan fydda i’n ei gwylio hi, mae hi fel newydd i mi bob tro.

Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?

Faswn i wrth fy modd taswn i wedi cael cyfle i gael diod neu beth bynnag efo Nelson Mandela.

Oedd gen i feddwl mawr ohono fo. Dwi wedi bod i Dde Affrica ac wedi gweld lle cafodd o ei garcharu am yr holl amsar.

Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi’n ddipyn o gasglwr. Dwi’n ofnadwy am greiriau ac am hel petha’.

Fydda i’n hel unrhyw beth sy’n mynd â fy sylw i. O’n i’n ofnadwy am hel hen betha’.

Mae gen i lot o glust-dlysau… llawer gormod ohonyn nhw. Fydda i’n meddwl weithia’, ‘i be?’, ond dyna fo! Dwi’n licio pethau felly.

Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?

Dwi’n meddwl mai be faswn i’n ei wneud ydy diolch i ’Ngwaredwr am gael byw gyhyd. Mae gen i ffydd mawr.

Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?

Llun teulu. Mae’r teulu yn bwysig iawn i fi. Mae gen i un ŵyr ac un wyres a dwi’n hynod o lwcus, dy’n nhw ond yn byw rhyw ddwy filltir i ffwrdd ar ffarm i fyny’r ffordd.

Dwi’n gweld lot arnyn nhw a ’dan ni’n dod ymlaen yn dda fel teulu ac yn griw hapus iawn pan fyddwn ni efo’n gilydd.

Ffynhonnell y llun, Beryl Vaughan
Disgrifiad o’r llun,

O’r chwith: John (gŵr Beryl), Sarah (ei merch), Beryl, Ben (ei mab yng nghyfraith) Mari (ei merch yng nghyfraith) ac Edward (ei mab)

Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

J.O. Roberts – dyna un o’n arwyr mwyaf achos bo’ fi yn ymddiddori yn y byd llefaru ac wedi ennill yn y Genedlaethol.

Hefyd mi wnaeth y plant, Edward a Sarah actio gyda J.O yn y gyfres deledu, Lleifior. J.O oedd eu taid nhw yn y gyfres a ddaru ni gadw mewn cysylltiad hefo fo wedyn.

Taswn i ond yn meddu ar lais fel J.O. Oedd o’n ŵr bonheddig.



Source link

Tags: AtebBerylgalwVaughan

Related Posts

Three men arrested after ‘stabbing’ in Sandfields, Swansea

September 25, 2025
0

Three men have been arrested after an alleged stabbing in Swansea on Wednesday night.A 25-year-old man and a 23-year-old...

Ely riot mothers stopped from seeing dying teens, trial told

September 24, 2025
0

Watch the moment a petrol bomb is thrown at a police officer during a riot in CardiffThe mothers of...

Llywodraeth wedi gollwng cynllun dadleuol cytundeb deintyddion

September 23, 2025
0

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu'r tro pedol hwn gan y Blaid Lafur, ac yn dweud bod parhad yn y...

  • Australia helicopter collision: Mid-air clash wreckage covers Gold Coast

    513 shares
    Share 205 Tweet 128
  • Ballyjamesduff: Man dies after hit-and-run in County Cavan

    510 shares
    Share 204 Tweet 128
  • Somalia: Rare access to its US-funded 'lightning commando brigade

    508 shares
    Share 203 Tweet 127
  • Google faces new multi-billion advertising lawsuit

    508 shares
    Share 203 Tweet 127
  • Uganda arrest over deadly New Year Freedom City mall crush

    507 shares
    Share 203 Tweet 127
  • Trending
  • Comments
  • Latest

Australia helicopter collision: Mid-air clash wreckage covers Gold Coast

January 10, 2023

Ballyjamesduff: Man dies after hit-and-run in County Cavan

August 19, 2022

Somalia: Rare access to its US-funded 'lightning commando brigade

November 23, 2022

Stranger Things actor Jamie Campbell Bower praised for addiction post

0

NHS to close Tavistock child gender identity clinic

0

Cold sores traced back to kissing in Bronze Age by Cambridge research

0

County Championship: Nottinghamshire win Division One title

September 25, 2025

Jaguar Land Rover restarts some IT systems after cyber-attack

September 25, 2025

US economic growth revised up on strong consumer spending

September 25, 2025

Categories

England

County Championship: Nottinghamshire win Division One title

September 25, 2025
0

Nottinghamshire's turnaround this campaign has been somewhat remarkable.In Hameed's first year as captain in 2024, they only avoided relegation...

Read more

Jaguar Land Rover restarts some IT systems after cyber-attack

September 25, 2025
News

Copyright © 2020 JBC News Powered by JOOJ.us

Explore the JBC

  • Home
  • News
  • Sport
  • Worklife
  • Travel
  • Reel
  • Future
  • More

Follow Us

  • Home Main
  • Video
  • World
  • Top News
  • Business
  • Sport
  • Tech
  • UK
  • In Pictures
  • Health
  • Reality Check
  • Science
  • Entertainment & Arts
  • Login

Copyright © 2020 JBC News Powered by JOOJ.us

Welcome Back!

Login to your account below

Forgotten Password?

Create New Account!

Fill the forms bellow to register

All fields are required. Log In

Retrieve your password

Please enter your username or email address to reset your password.

Log In
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. Visit our Privacy and Cookie Policy.
News
More Sites

    MORE

  • Home
  • News
  • Sport
  • Worklife
  • Travel
  • Reel
  • Future
  • More
  • News

    JBC News