Yn 2016 fe ollyngwyd cyhuddiadau o greulondeb tuag at blant ar ddau aelod o staff Canolfan Brynffynnon.
Roedd y ddau ddyn yn wynebu 50 o gyhuddiadau rhyngddynt.
Ond dywedodd Heddlu Gogledd Cymru, wrth i dystiolaeth gael ei chasglu, fod “Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi adolygu’r holl wybodaeth oedd ar gael, a phenderfynu nad oedd yr achos bellach yn cyrraedd y trothwy ar gyfer erlyniad troseddol”.
Mewn achos troseddol, rhaid i erlynwyr brofi achos y tu hwnt i amheuaeth resymol.
Mewn achos sifil am iawndal, mae’r lefel o brawf sydd ei angen yn is – ar sail tebygolrwydd.
Mae’r ddau ddyn yn parhau i wadu’r honiadau’n gryf ac wedi tynnu sylw at y ffaith i’r achos troseddol gael ei ollwng.
Mewn achos ar wahân, cafodd y pedoffeil Neil Foden ei garcharu am 17 mlynedd yn 2024 ar ôl cael ei gael yn euog o gam-drin pedair merch dros gyfnod o bedair blynedd.
Roedd Foden wedi bod yn bennaeth ar ddwy ysgol arall yng Ngwynedd, gydag adolygiad wedi canfod dros 50 o “gyfleon a gafodd eu colli” i ymyrryd.
Mae’r cyfreithiwr sy’n gweithredu ar ran Rhiannon a Levi, Katherine Yates, hefyd yn cynrychioli rhai o ddioddefwyr Foden.
“Rwy’n credu bod angen ymchwiliad cyhoeddus,” meddai.
“Dydy Canolfan Brynffynnon ddim yn achos unigryw. Mae’n dod yn syth ar ôl achos Neil Foden.
“Pwy a ŵyr beth arall sydd heb ddod i’r fei? Faint o sgerbydau eraill sy’n cuddio yn y cypyrddau?
“Dydw i ddim yn credu y dylai Gwynedd farcio ei gwaith ei hun.
“Rydym angen gwybod beth ddigwyddodd, pam y digwyddodd, pwy sy’n gyfrifol, a sut i atal hyn rhag digwydd eto.”
Dywedodd Ms Yates ei bod yn gweithredu ar ran 21 o hawlwyr, ac mae saith achos eisoes wedi’u setlo.













































