Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Tân eu bod wedi cael eu galw am 02:15 fore Sul ac y bu rhaid iddyn nhw ddelio “â nifer sylweddol o ddigwyddiadau difrifol ar draws gogledd Cymru”.
“Bu ein diffoddwyr tân yn gweithio drwy’r nos, gan ddechrau ddoe yn y bore, ac maen nhw’n parhau ar y safle heddiw,” meddai fore Llun.
“Mae tua 200 erw o dir wedi’u heffeithio.”
Esboniodd fod y tân tua 1.6 cilomedr o hyd ar ei waethaf, “felly roedd o’n ddigwyddiad mawr a sylweddol iawn i ni”.
“Oherwydd y tirwedd anodd iawn ar Fynydd y Dref, mae’n anodd iawn i ni gael ein timau yno. ‘Da ni’n disgwyl bod yno am beth amser.
“Wrth i’r tymheredd godi yn yr ardal y bore ‘ma ac yn ystod y dydd, ‘da ni’n disgwyl gweld y tân yn dwysáu eto, ond mae ein timau wedi bod yn cynllunio drwy’r nos i baratoi ar gyfer hynny.”
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.













































