Mae diogelwch Aelodau o’r Senedd yn fater sydd wedi cael ei godi sawl gwaith yn ddiweddar.
Dywedodd y Llywydd, Huw Irranca-Davies bod yna “fframwaith ddiogelwch gynhwysfawr” i gefnogi aelodau yn eu gwaith.
Dywedodd bod hynny yn cynnwys diogelwch ar ystad y Senedd, cyngor wedi ei deilwra, modd o gofnodi digwyddiadau, a mesurau diogelwch yng nghartrefi aelodau a swyddfeydd etholaethol.
Dywedodd Mr Irranca-Davies bod y trefniadau yn cael eu cefnogi gan gydweithrediad â’r heddlu, yn cynnwys presenoldeb ar y safle a rhannu gwybodaeth, yn ogystal â gweithio gyda phartneriaid diogelwch ar draws Cymru a’r DU.
Ychwanegodd bod cynlluniau diogelwch yn cael eu hadolygu’n flynyddol, tra bod asesiadau risg parhaus yn cael eu cynnal gan swyddogion diogelwch y Senedd, yr heddlu a phartneriaid diogelwch drwy’r DU.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.















































